P-05-950 Dysgu Amaethyddiaeth ac Addysg Cefn Gwlad o oed 4 i 16 yn ein Hysgolion

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Osian Hedd Harries, ar ôl casglu cyfanswm o 93 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu am Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Gefn Gwlad yn ein hysgolion.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae'n bwysig i bobl ifanc ddysgu sut mae'r broses o greu bwyd yn gweithio, gan ddysgu'r berthynas rhwng Bwyd ac Amaeth. Mae'n bwysig hefyd fod nhw'n dysgu'r sgiliau sylfaenol o sut i allu cynhyrchu cynnyrch ein bwydydd. Fydd hyn hefyd yn magu parch a dealltwriaeth o waith yr Amaethwyr.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·         Preseli Sir Benfro

·         Canolbarth a Gorllewin De Cymru